Gwefan Rheoli Pobl - rheolaeth well ar gyfer arfer gwell Social Care Institute for Excellence (SCIE) logo


Defnyddio’r archwiliadau

Cynlluniwyd yr archwiliadau i fod yn ymarferion hunan-asesu y gallwch eu gwneud ar-lein i nodi eich cryfderau a meysydd ar gyfer gwella. Dilynwch y camau hawdd isod (neu argraffwch hwy yn gyntaf) i ganfod sut y gallwch eu defnyddio. Mae gan bob archwiliad gyfres o gwestiynau gydag atebion amlddewis. Ar ôl i chi orffen yr archwiliad, bydd y system yn rhoi sgôr i chi ac yn awgrymu adnoddau o’n cyfeirlyfr adnoddau a allai eich helpu.

Gellir defnyddio’r holl archwiliadau am ddim, gellir eu hail-wneud ar unrhyw adeg ac maent yn eich galluogi i argraffu neu storio manylion eich archwiliad ar ôl i chi gyrraedd y diwedd. I storio’r archwiliad, mae angen i chi ddod yn aelod o’r wefan sydd hefyd am ddim. Am fwy o fanylion ar aelodaeth, edrychwch ar ein tudalen dod yn aelod

10 cam hawdd

  1. Dewiswch archwiliad o’r rhestr ar ein tudalen archwiliadau.
  2. Edrychwch ar ac argraffu’r holl gwestiynau cyn i chi ddechrau os ydych am gael rhai atebion yn barod.
  3. Neu, cliciwch ar y cyswllt i ddechrau eich archwiliad.
  4. Mae cyfres o gwestiynau ar bob tudalen yr archwiliad. Ticiwch neu dewiswch yr ateb sydd fwyaf priodol i chi.
  5. Pan fyddwch yn cyrraedd gwaelod pob tudalen, cliciwch ar y dudalen nesaf.
  6. Ar ôl i chi gwblhau’r dudalen olaf a chlicio ar nesaf, bydd y system yn cyfrifo sgôr i chi.
  7. Yn ogystal â’ch sgôr, bydd y system yn dangos rhestr o gysylltiadau i amrywiol ddogfennau yn ein cyfeirlyfr adnoddau i chi.
  8. Os ydych am arbed eich archwiliad ac edrych arno eto, dilynwch y cyswllt i ddod yn aelod o’r wefan. Mae hyn am ddim.
  9. Hefyd gallwch argraffu canlyniadau eich archwiliad i’w cadw fel cofnod.
  10. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn ar yr archwiliadau drwy gwblhau eich ffurflen adborth.