Gwefan Rheoli Pobl - rheolaeth well ar gyfer arfer gwell Social Care Institute for Excellence (SCIE) logo


Arbed archwiliadau

Cynlluniwyd yr archwiliadau hunan-asesu i ganiatáu i ymwelydd â’r wefan nodi ei lefel arfer gyfredol a chanfod ffyrdd i’w newid.

Os ydych yn cyrraedd diwedd unrhyw un o’r archwiliadau ar y wefan hon, rhoddir yr opsiwn i chi arbed yr archwiliad drwy ddod yn aelod. Ar ôl i chi wneud hyn byddwch yn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair.

Os byddwch yn mewngofnodi drwy deipio eich enw defnyddiwr a’r cyfrinair yn y blwch mewngofnodi ar y dudalen, yna gallwch glicio ar y dudalen ‘gweld fy archwiliadau’. Mae hyn yn dangos yr holl archwiliadau yr ydych wedi’u cyflawni. O’r man hwn, gallwch glicio ar archwiliad nad ydych wedi’i gyflawni a bydd eich manylion yn cael eu harbed.

Gallwch ail-wneud archwiliad yn hwyrach hefyd. Os gwnaethoch unrhyw newidiadau i’ch arferion a’ch bod yn dymuno asesu eich lefel eto, gallwch ail-wneud yr archwiliad a gweld sut yr ydych wedi sgorio.