Gwefan Rheoli Pobl - rheolaeth well ar gyfer arfer gwell Social Care Institute for Excellence (SCIE) logo


Telerau ac amodau

Rheolir y defnydd o’r safle hwn gan y telerau ac amodau canlynol.

Hawlfraint

Mae’r holl ddeunydd ar y wefan hon, yn cynnwys testun, graffeg a lluniau, yn hawlfraint y Sefydliad er Rhagoriaeth Gwaith Cymdeithasol (SCIE), oni noder yn wahanol. Gellir atgynhyrchu testun a graffeg am ddim at ddibenion unrhyw ddefnydd personol neu addysgol neu ymchwil bersonol. Fodd bynnag, ni chaniateir defnyddio unrhyw destun, graffeg neu luniau o’r wefan hon at unrhyw ddibenion masnachol oni bai y ceir caniatâd ymlaen llaw gan SCIE.

Ymwadiad

Mae SCIE yn ymrwymedig i’r safonau uchaf o ansawdd gwybodaeth a gwnaed pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth ddiweddar a chywir. Fodd bynnag, nid yw SCIE yn cynnig unrhyw warant, yn uniongyrchol neu’n ymhlyg, ynghylch cywirdeb yr wybodaeth ar y wefan hon ac nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ddifrod neu anghyfleustra a achoswyd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth o’r fath.

Dolenni allanol

Darperir dolenni allanol ar y wefan hon i roi gwybodaeth ychwanegol i ddefnyddwyr. Ni all SCIE warantu y bydd dolenni o’r fath yn gweithio bob tro, ac nid ydynt yn gwneud unrhyw gynrychioliadau mewn perthynas â safon neu gywirdeb y safleoedd y cysylltir â hwy. Nid yw SCIE yn cymeradwyo unrhyw safleoedd allanol ac nid yw’n gyfrifol am eu cynnwys.

Diogelu Data a Datganiad Preifatrwydd

Bydd gwybodaeth y byddwch yn ei darparu gan ddefnyddio unrhyw ffurflen(ffurflenni) electronig ar y wefan hon yn cael ei defnyddio at y diben(ion) a nodir ar y ffurflen yn unig.

Defnyddir gwybodaeth y byddwch yn ei darparu mewn e-byst atom ni at y diben (yr ydym yn ei chredu yn rhesymol) y byddwch yn ei rhoi i ni yn unig.

Gellir defnyddio gwybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni at ddibenion ystadegol a sicrhau ansawdd ond ni fydd yn cael ei defnyddio mewn unrhyw ffordd (y tu hwnt i’w diben gwreiddiol) fydd yn golygu y gellir eich adnabod.

Gellir storio gwybodaeth y byddwch yn ei darparu yn electronig. Ni fydd yn cael ei throsglwyddo i unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd.

Nid ydym yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr o’r wefan ac ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi ar wahân i hynny sy’n angenrheidiol er mwyn gweinyddu system y gweinydd Gwe.